Dyma lyfr sy’n llawn dop o weithgareddau a phosau i ymddiddori plant hŷn am oriau. Mae’r gweithgareddau yn amrywiol iawn, a digon at ddant pob plentyn. Cewch gyfarwyddyd sut i lunio draig, cyfle i gwblhau hanner darlun o bêl rygbi, chwilio am wahaniaethau rhwng lluniau, crafu’ch pen ar bosau mathemategol a chwilair, i enwi dim ond rhai. A’r hyn sy’n hyfryd am y llyfr hwn, wrth gwrs, yw bod y pynciau a’r elfennau cefndir oll mor Gymreig – cewch gyfle i liwio llwyau caru, llun yr Wyddfa, arfbais Llywelyn ac adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd, heb sôn am ddrysu’ch pen ar ddrysfa ym Mhortmeirion! Dyma ffordd hwyliog, felly, o ddysgu sgiliau a dysgu am Gymru ar yr un pryd. Llyfr maint tudalen A4 ydyw, a diwyg y llyfr yn hyfryd ac yn rhwydd i'w ddefnyddio. Mae’r llyfr yn ategu ac yn cyd-fynd â’r atlas Cymru ar y Map, ac mae rhai o'r ffeithiau wedi’u codi o hwnnw, er y
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781849670463
Publisert
2018-09-11
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
320 mm
Bredde
224 mm
Dybde
5 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
32

Forfatter