Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo.
Un a'i gwreiddiau'n ddwfn ym mwynder Maldwyn yw Mari Lisa. Mae'n gyfieithydd proffesiynol ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad o gyfieithu ac addasu amrywiaeth eang o ddeunydd. Mae hi hefyd yn llenor ac yn fardd. Enillodd Mari Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Cyffiniau yn 2015 gyda'i nofel hir gyntaf Veritas. Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn 1985, a choron yr Urdd yn Nyffryn Ogwen yn 1986. Hi hefyd oedd awdur sioe gerdd yr ysgolion cynradd pan ymwelodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd â Maldwyn yn 1988. Mae gan Mari Lisa ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor mewn ysgrifennu creadigol, ac mae wedi ennill amryw gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol. Cyhoeddwyd ei cherddi mewn sawl cyfrol. Mae'n llais rheolaidd ar raglen Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781912261796
Publisert
2019-09-13
Utgiver
Vendor
Atebol Cyfyngedig
Høyde
238 mm
Bredde
238 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Engelsk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
42

Forfatter
Oversetter
Illustratør