1.'Mae o 'di bod ar daith ers saithdeg chwech': Prentisiaeth Farddol Iwan Llwyd - Manon Wynn Davies 2.'Iwan Llwyd, Pererin' - Gwyn Thomas 3.'Her Newydd Hen Siwrneiau' - Guto Dafydd 4. 'Felly Iwan: Rhai agweddau ar gyferiadaeth, delwedd a gair mwys ym marddoniaeth Iwan Llwyd' - Twm Morys 5. 'Atgofion Ynys Gwales' - Iwan Bala 6. 'Un fran o ddifri o hyd' - Myrddin ap Dafydd 7. 'Y Bardd sydd yn Canu'r Byd' - Osian Rhys Jones 8. 'O Dir Neb i'r Tir Cyffredin' - Llion Jones 9. 'Iwan Llwyd fel Colofnydd Barddas' - Alan Llwyd
Les mer
Cyfrol newydd yn astudio awen Iwan Llwyd Newydd ei chyhoeddi mae cyfrol gan Gyhoeddiadau Barddas sy’n edrych ar waith un o feirdd pwysicaf Cymru, y diweddar Iwan Llwyd. Gyda chyfraniadau gan feirdd a beirniaid llenyddol amlwg mae Awen Iwan yn cynnig astudiaeth fanwl o waith y bardd fu farw yn 2010. Dyma’r gyfrol gyntaf i gynnig trafodaeth gynhwysfawr o’i waith. “Y farn am Iwan Llwyd wedi’r trafod ydi mai y fo oedd bardd Cymraeg mwyaf ei genhedlaeth,” meddai Twm Morys yn ei gyflwyniad i’r gyfrol. “Ymhen blynyddoedd eto, pan fydd hyd yn oed Guto Dafydd wedi mynd i’w aped (a bwrw, fel sydd raid inni, y bydd darllen o hyd ar farddoniaeth Gymraeg), rwy’n credu y bydd y farn honno wedi newid, ac y gwelir mai Iwan Llwyd a ganodd orau o neb mewn unrhyw genhedlaeth am y ‘newyddfyd Cymraeg’.” Caiff Iwan Llwyd ei gydnabod fel bardd a dorrodd gwys bwysig i farddoniaeth Gymraeg. Roedd yn brif lais ymysg cenhedlaeth newydd o feirdd oedd yn ceisio dadansoddi realaeth eu Cymru newydd hwy o fewn cyd-destun eu traddodiad barddol a dylanwadau cryfion o’r tu allan, yn enwedig o America. Dychwelodd hefyd at yr hen arfer o fynd â’r farddoniaeth yn uniongyrchol at gynulleidfa, gan gymryd rhan mewn sawl taith farddol megis Fel Hêd y Frân, Cicio Ciwcymbars a Bol a Chyfri Banc. Y nod oedd mynd â cherddi at gyunlleidfa newydd mewn noswetihiau anffurfiol, cymdeithasol. Yn aml iawn, byddai’r teithiau hynny – a’i deithiau dramor – yn darparu ysbrydoliaeth ar gyfer cerddi eraill. Meddai Myrddin ap Dafydd: “Mynd â barddoniaeth, a chelfyddydau eraill, at gynulleidfa ehangach oedd galwedigaeth Iwan, a dod â’r gynulleidfa ehangach at graidd, at grawc, at groesffyrdd ein barddoniaeth ni. Roedd o ddifri, hollol o ddifri ynglyn â hynny.” Gwelai Iwan Llwyd swyddogaeth bardd cyfoes fel swyddogaeth y beirdd llys traddodiadol, yn cofnodi, yn dadansoddi ac yn procio, ac roedd ei waith yn goeth o gyfeiriadau at draddoddiad barddol Cymru, ei chwedlau a’i hanes. Mae ei waith yn drwm hefyd o gyfeiriadaeth at gerddoriaeth eingl-Americanaidd ei gyfnod, a chaneuon eiconau fel Bob Dylan a George Harrison. Fel cerddor ei hun, yn chwarae – ac yn cyfansoddi caneuon - i fand Steve Eaves a Geraint Lovgreen, roedd swyddogaeth y cerddor a’r llenor yn mynd law yn llaw. Dyma’r elfen sy’n cael sylw Osian Rhys Jones yn y gyfrol. “Bwriad yr ysgrif hon yw edrych ar un elfen sy’n greiddiol i yrfa Iwan Llwyd fel bardd, sef y grym i greu’r byd trwy gân,” meddai. “Saif y grym hwnnw ar ei groesffordd greadigol, gan fod y syniad yn treiddio nid yn unig i themâu a phynciau ei gerddi, ond hefyd i’w gredo sylfaenol yn nyletswydd, rôl a dylanwad y bardd ei hun. Trwy ganu’r byd o’i gwmpas (ac yntau wedi gweld cryn dipyn ar y byd), llwydda i greu, ail-greu, mapio ac adfywio llwybrau colledig, mannau cysegredig ac arwyr cenedlaethol.” Yn ei hysgrif, mae Manon Wynn Davies yn edrych ar brentisiaeth Iwan Llwyd a’r hyn a’i siapiodd fel bardd. Yn fab i weinidog, bu ei athro Cymraeg yn Ysgol Friars, Bangor, Hywel Bebb yn ddylanwad mawr arno, ac yn sbardun i’w ddiddordeb mewn barddoniaeth, yn enwedig waith R. Williams Parry a T. H. Parry Willliams. Cyhoeddodd Iwan Llwyd ei waith am y tro cyntaf erioed yn y cyfnod hwn, yng nghylchgrawn yr ysgol. Bu i Iwan ei hun gydnabod, “Fel mab i weinidog roedd geiriau yn rhan bwysig o ’mywyd ers yn gynnar iawn ... Er bod pregethau ac emynau yn medru bod yn ddiflas iawn i hogyn ifanc, mae’r gorau ohonyn nhw yn llawn o ddisgrifiadau a delweddau byw, o straeon neu droeon difyr, ac o farddoniaeth.” Yn 1976 aeth i Brifysgol Aberystwyth lle gwnaeth enw iddo’i hun fel egin fardd.“Parhau hefyd wnaeth dylanwad T. H. Parry-Williams arno o’r cyfnod cynharaf drwy gydol ei yrfa farddol, a dilynodd ôl troed Parry-Williams yn llythrennol wrth iddo yntau gyhoeddi cerddi taith i Dde America a chael ei hudo gan swyn enwau llefydd dros y môr” meddai Manon Wynn Davies. “Difyr yw dal rhyw fymryn ar ei gymeriad yn ystod y cyfnod hwnnw, sylwi ar hadau’r themâu a blannwyd yn gynnar ganddo, ac olrhain y llinyn sy’n plethu rhwng y cerddi wedi cychwyn taith y Gaucho hwn o fardd.” Yn y nawdegau, gwahoddwyd Iwan Llwyd i ddod yn golofnydd rheolaidd yng nghylchgrawn Barddas, ac ysgrif am y colofnau craff a heriol hyn sydd gan Alan Llwyd. Meddai: “Gwyddwn am syniadau heriol, radicalaidd Iwan Llwyd, a dyna un rheswm pam y gofynnais iddo gyfrannu colofn reolaidd i’r cylchgrawn. Roedd ganddo olygwedd wahanol ar bethau. Roedd hefyd yn feddyliwr craff. Nid herio er mwyn herio a wnâi, ond herio er mwyn ennyn ymateb, procio i gael eraill i fyfyrio ar y materion a’r pynciau mwyaf arwyddocaol a mwyaf sylfaenol i ni fel Cymry. Roedd Iwan yn genedlaetholwr ac yn rhyngwladolwr ar yr un pryd, yn drwbadwwr ac yn delynor, yn draddodiadydd ac yn fodernydd.” Mae ysgrif Gwyn Thomas yn bortread o fardd ac un yr oedd yn ei adnabod yn dda ac mae yntau hefyd yn gweld Iwan fel trwbadwr ei genhedlaeth. “Yr oedd ei ymarweddiad yn ymarweddiad bardd, bardd go-iawn, bardd a edrychai, o ran pryd a gwedd, rywbeth yn debyg i Lee van Cleef,” meddai Gwyn Thomas. “Fe edrychai fel trwbadwr: dyna inni’r het fawr, a dyna inni’r gitâr dros ei ysgwydd. Y mae’r amlinell ohono ar flaen y gyfrol Hanner Cant yn ei gyfleu i’r dim. Y mae ei alw’n drwbadˆ wr yn gywir-gymwys am fod cerddoriaeth a geiriau wedi bod yn mynd gyda’i gilydd mor aml yn ei alwedigaeth.” Er y ddelwedd o’r trwbadwr crwydrol roedd Iwan Llwyd wedi ei greu iddo’i hun, does dim yn grwydrol na digyfeiriad am ei waith yn ôl ysgrif Llion Jones. Meddai: “Er gwaetha’r ddelwedd y bu Iwan Llwyd yn ei thaflunio ohono ef ei hun fel hobo blêr a digyfeiriad, y mae rhyw gymesuredd annisgwyl i’w ganfod yn ei yrfa lenyddol: y math hwnnw o gymesuredd sy’n perthyn i un â hyder yn ei genhadaeth, difrifoldeb yn ei amcan a sicrwydd yn ei gerddediad.” Edrych ar bwysigwydd teithio ar ei waith y mae Guto Dafydd: “Roedd yn gweld teithio’n rhan greiddiol o fod yn fardd,” meddai. “Drwy waith Iwan, mae’r lôn yn hollbresennol: y daith ei hun, yn aml iawn, yn bwysicach na’i therfyn ... Pan fydd Cymry’r dyfodol yn darllen ei waith ... bydd yn teithio drwy amser i ymweld â hwythau. Rhydd iddynt ddealltwriaeth o’n cyfnod ni: seici’r Cymry yn y cyfnod hwn o fagu sofraniaeth wrth i natur cymdeithas a chyfathrebu newid yn sydyn. Caiff darllenwyr y dyfodol hefyd adnabod Iwan: teimlo rhywfaint o’i garisma a chymhlethdod ei gymeriad.” Ystyried delweddau a chyfeiriadaeth yng ngwaith Iwan Llwyd wna cyfraniad y golygydd Twm Morys, gan drafod taith i America a esgorodd ar gerddi wedi eu dylawadu’n drwm gan ddelweddau Americanaidd a brodorol y wlad. Meddai: “Roedd Iwan y bardd yn gymysg ei dras. Ar un ochr roedd yn perthyn i draddodiad barddol ei wlad ei hun, a daeth i gredu o ddifri ei bod yn ddyletswydd ar fardd o Gymro deithio’i wlad gan ysbrydoli a phryfocio a chadw’r chwedlau’n fyw. “Ar yr ochr arall wedyn, fel pob bardd wedi’r Ail Ryfel Byd y tu allan i sir Feirionnydd, roedd Iwan yn perthyn i’r diwylliant Eingl-Americanaidd. Drwy’r radio a’r jiwc-bocs y daeth yr haint yn benna, mae’n debyg: y Beatles i ddechrau, ac wedyn Bob Dylan a’r Rolling Stones, a Leonard Cohen a Bruce Springsteen a Tom Waits a llawer o rai eraill rhyngddyn nhw.” Ers cyfarfod yn fyfyrwyr yn Aberystwyth, bu’r artist Iwan Bala ac Iwan Llwyd yn gyfeillion agos, a bu’r artist yn gyfrifol am arlunwaith trawiadol nifer o’i gyfrolau. Gwel Iwan Bala mai Iwan Llwyd oedd yn gyfrifol am ddod â byd y bardd a byd yr artist at ei gilydd. “Hyd at chwarter olaf y ganrif ddiwethaf, roedd beirdd ac artistiaid Cymru yn byw i raddau helaeth mewn bydoedd ar wahân. Mae hyn wedi newid erbyn heddiw, ac roedd Iwan Llwyd yn un o’r ffigyrau canolog yn y newidiadau hyn,” meddai. “Pan ddois i adnabod Iwan Llwyd, cefais y wefr o wybod fymod yng nghwmni bardd, ac y medrwn gyfathrebu ag ef, a rhannu syniadau ar draws y ddwy ddisgyblaeth greadigol, y farddonol a’r weledol. Roeddem o’r un genhedlaeth, gyda’r un daliadau, a gyda’r dyhead i weld Cymru fel lle oedd ar flaen y gad yn ei chelfyddydau, yn rhan o’r byd ôl-fodern ac ôl-drefedigaethol.” Mae’r gyfrol gyffrous hon, sydd hefyd yn cynnwys rhai lluniau gan y ffotograffydd Marian Delyth, yn dathlu cyfraniad enfawr Iwan Llwyd fel bardd, ac yn bwrw golwg drwyadl ar ei gerddi.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396725
Publisert
2014-07-25
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
224

Redaktør