Dyma adnodd gwych ar gyfer dysgu dweud yr amser. Yn ogystal â’r stori fach am ddiwrnod ar y traeth, mae yma gyfle i chwarae (a dysgu) gyda chlociau a lluniau bach magnetig (23 o ddarnau). Gall plant iau ddilyn stori’r ferch sy’n dal y trên i fynd i’r traeth i adeiladu cestyll tywod, cael picnic, mynd ar gefn mul bach, mynd i’r ffair, a bwyta hufen iâ, ac yna’n dod adref i gael stori a mynd i’r gwely’n brydlon a bodlon. Gallant hefyd fwynhau gosod yr eitemau bach magnetig (tedi, trên, bwced, castell tywod, ac ati) ar y lluniau perthnasol. Ceir deuddeg cloc bach magnetig yn mynd o 1 i 12 o’r gloch, a bydd plant hŷn yn medru dewis y cloc cywir ar gyfer pob llun. Bydd y llyfr hwn yn apelio’n fawr at unrhyw blentyn sy’n hoffi sticeri. Mae’n fwy na llyfr, mae’n degan hefyd. Mae’r pwyslais ar ddysgu dweud yr amser yn hytrach nag ar y stori, felly mae’r testun yn syml iawn, ac fe’i ceir yn Saesneg mewn ffont lai o dan y Gymraeg.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781905255450
Publisert
2007-02-20
Utgiver
Vendor
Atebol
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Engelsk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
12

Illustratør