Dyma gyfrol sydd yn ymdrin â mewnfudo rhyngwladol, cymunedau Cymru
a’r Gymraeg o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol. Gan dynnu ar
ymchwil empeiraidd gyda myfyrwyr, tiwtoriaid iaith a swyddogion
llywodraethol Cymru, mae’r awdur yn herio rhagdybiaethau
damcaniaethol am berthynas mewnfudwyr â’r Gymraeg. Daw cymhlethdod
sefyllfa iswladwriaethol Cymru i’r amlwg wrth I Lywodraeth Cymru
ddatgan cefnogaeth dros ddwyieithrwydd, tra bod polisïau’r
Wladwriaeth Brydeinig yn hybu polisi mewnfudo a dinasyddiaeth
homogenaidd ac unieithog. Wedi trafod y sefyllfa yn Québec ac
archwilio’r berthynas rhwng hunaniaethau ethnig a sifig, awgryma
Gwennan Higham ei bod yn ddyletswydd arnom i ddiffinio a sefydlu
dinasyddiaeth amlethnig Gymreig a Chymraeg.
Les mer
Produktdetaljer
ISBN
9781786835376
Publisert
2020
Utgave
1. utgave
Utgiver
Vendor
Gwasg Prifysgol Cymru
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok
Forfatter