Mae Gêm Beryglus yn stori drosedd sy’n digwydd yn ardal Bannau Brycheiniog, lle mae llofrudd wedi lladd ei ysglyfaeth gyntaf. Mae'r awdur yn ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol, gan ddechrau yn y person cyntaf, sef y llofrudd, ac wedyn newid i’r trydydd person wrth ddilyn yr ymchwiliadau gan yr heddlu a’r ymdrechion i ddal y llofrudd. Mae e’n newid yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau safbwynt, ac fel hyn mae'r darllenydd yn dilyn stori’r llofrudd ar un ochr – ei gynlluniau a'r llofruddiaethau – ac ar yr ochr llall yn dilyn stori’r Ditectif Arolygydd Cadog Williams, y Rhingyll Heledd Davies a’r swyddog fforensig Ffion Roberts. Mae’n ddull effeithiol, oherwydd ar y dechrau mae'r darllenydd yn gwybod beth mae'r llofrudd yn mynd i'w wneud, a hefyd ble, pryd a sut, cyn i’r heddlu wybod. Felly’r dirgelwch yw pam, a phwy yw’r llofrudd mewn gwirionedd. Tra bod y stori yn mynd rhagddi mae’r llofruddiaethau yn dod yn agosach at ei gilydd ac mae sawl trywydd a chliw yn arwain yr heddlu at yr atebion, ac yn y diwedd at uchafbwynt cyffrous. Ar y dechrau ro’n i’n teimlo ychydig bach yn anghyfforddus ynghylch darllen meddyliau llofrudd, ond wedyn dechreuais fod eisiau gwybod mwy am y cymeriadau. Dysgais i fwy am seicoleg trosedd, sut mae'r heddlu yn gweithio mewn sefyllfa fel hyn, a pha mor anodd yw eu gwaith. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd, ac mae’r eirfa ar waelod y tudalennau yn ddefnyddiol.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781912261291
Publisert
2020-10-15
Utgiver
Vendor
Atebol Cyfyngedig
Høyde
210 mm
Bredde
147 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
100

Forfatter
Redaktør