Dyma gath ddigywilydd os bu un erioed! Ydi, mae Twffyn yn gath a hanner! Mae Elin bron â cholli ei limpyn a chyrraedd pen ei thennyn, ond ai lladdwr gwaed oer allan o reolaeth ydi Twffyn, ynteu a oes ochr feddal i’w gymeriad goeglyd? Yr unig ffordd o ddarganfod hynny yw darllen y dyddiadur. Mae’r dyddiadur hwn yn dilyn un wythnos ym mywyd y gath fwyaf hunangyfiawn yn y byd, o’r bore dydd Llun hwnnw pan mae’n llusgo cwningen i mewn i’r tŷ hyd at uchafbwynt gwallgo’ dydd Sadwrn. Yn ystod y dyddiadur hwn, treiddiwn i feddwl Twffyn ac er bod ganddo agwedd dd-hid at fywyd, does dim modd peidio â’i hoffi wrth iddo wfftio pawb a phopeth a pharhau gyda’i giamocs cyfrwys. Ydi, mae Twffyn yn rêl cath! Yn galon galed, yn anwybyddu sylwadau hurt ei berchennog, yn hollol hunangyfiawn, yn brolio ei fod yn fwni-laddwr o fri – does dim all ei stopio! A ’dan ni’n ysu i wybod os ydi o’n cael ei gosbi am ei lofruddiaethau di-ri – go brin! Does dim all ddod â’r gath hon i stop! Diolch i ddawn dweud arbennig a’r addasiad hynod naturiol i’r Gymraeg, y tro nesaf y gwelwch gath yn llyfu ei phawennau, yn neidio o do eich tŷ i ganol y bin sbwriel, neu’n cysgu’n braf ar eich soffa, does dim dwywaith na fyddwch yn ysu i wybod beth sydd yn mynd trwy’i meddwl go iawn. A diolch i Twffyn am hynny!
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781849671484
Publisert
2013-02-07
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
198 mm
Bredde
4 mm
Dybde
129 mm
Aldersnivå
E, 12
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
64

Forfatter
Oversetter