Rho dy wybodaeth am Gymru ar brawf – yn y tŷ, yn y dosbarth neu yn y dafarn. Beth am ddod â theulu a ffrindiau ynghyd er mwyn gweld faint ydych chi’n ei wybod am Gymru! Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r llyfr cwis hwn yn cyd-fynd â'r atlas newydd Cymru ar y Map gan Elin Meek gyda lluniau hyfryd Valériane Leblond.
Les mer
Rho dy wybodaeth am Gymru ar brawf – yn y tŷ, yn y dosbarth neu yn y dafarn. Beth am ddod â theulu a ffrindiau ynghyd er mwyn gweld faint ydych chi’n ei wybod am Gymru! Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r llyfr cwis hwn yn cyd-fynd â'r atlas newydd Cymru ar y Map gan Elin Meek gyda lluniau hyfryd Valériane...
Les mer
Mae’r llyfr hwn yn seiliedig ar yr atlas gwybodaeth Cymru ar y Map, sef llyfr mawr clawr caled ar wahân sy’n cyflwyno ffeithiau Cymru ar fapiau. Ond er ei fod yn defnyddio’r un wybodaeth ffeithiol â’r llyfr hwnnw, ac y gellid eu darllen ochr yn ochr, mae hwn hefyd yn llyfr sy’n sefyll yn gadarn ar ei ben ei hun, ac iddo elfen lawer mwy chwareus na’r llall! Mae’n gyfrol i bob oedran, ac yn llawn dop o gwestiynau (ac atebion!) am hanes, daearyddiaeth, enwogion, byd natur, diwylliant, y celfyddydau, gwleidyddiaeth, bwyd, chwedlau, pensaernïaeth a chwaraeon Cymru, a llawer mwy. Faint ydych chi’n gwybod am y pethau hyn? Mi ddysgwch chi gymaint am Gymru drwy’r llyfr hwn, er enghraifft, ers pryd mae Casnewydd yn ddinas? Pam mae Cwm Nedd yn enwog? Ymhle mae Dafydd ap Gwilym wedi’i gladdu? Mae yma 595 cwestiwn am Gymru, a’r rheiny wedi’u trefnu yn ôl siroedd ac yn ôl testunau (e.e. Hanes, Chwaraeon etc). Gallwch ddarllen y llyfr eich hun i brofi eich gwybodaeth neu ei ddefnyddio i gynnal cwis gartref, yn y dosbarth neu unrhyw le. Mae’n hwyl mynd â’r llyfr hwn yn y car wrth deithio drwy’r siroedd y gofynnir cwestiynau amdanynt, ac yn wir mae bod yn y car yn lleoliad gwych i fwynhau’r cwestiynau. Yn y cyswllt hwnnw, gwych o beth fyddai cael llyfr cwis fel hwn sy’n llawer manylach ar gyfer teithiau car cyffredin ar hyd ffyrdd Cymru, sef llyfr sy’n cyflwyno gwybodaeth ar ffurf cwis am dirnodau a thirlun Cymru. Er enghraifft, beth yw enw’r mynydd ar y chwith? Pwy oedd yr awdur enwog a arferai fyw yn y pentref acw? Byddai taith addysgol ar yr A470 yn hedfan heibio! Mae croeso mawr i’r gyfrol fach hylaw hon, Llyfr Cwis: Cymru ar y Map a lluniau bach difyr Valériane Leblond yn bywiogi’r tudalennau.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781849670456
Publisert
2018-09-20
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
197 mm
Bredde
129 mm
Dybde
5 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
112

Forfatter
Illustratør