Rhaid inni fod yn ddiolchgar unwaith eto i Elin Meek a Valériane Leblond am eu gwaith bendigedig yn yr atlas darluniadol hwn, ac am gyflwyno Cymru i Gymry ifanc, a hynny mewn ffordd mor unigryw a ffres. Mae Elin Meek bellach yn arbenigwraig ar ymchwilio a throsglwyddo ffeithiau o bob math yn llwyddiannus mewn llyfrau plant, ac mae Cymru ar y Map yn bluen arall yn ei het. Mae’r llyfr yn llawn dop o wybodaeth am hanes, daearyddiaeth, enwogion, byd natur, diwylliant, y celfyddydau, gwleidyddiaeth, bwyd, chwedlau, pensaernïaeth a chwaraeon Cymru, a llawer mwy. Bydd sawl oedolyn hefyd yn siŵr o ddysgu sawl peth newydd am eu gwlad. Wyddech chi mai yn Wrecsam y mae canran uchaf y plant dan 5 oed? Mae’r ffeithiau difyr yn cynnwys sôn am fynachod Ynys Bŷr sy’n gwneud persawr a siocled i’w gwerthu i dwristiaid ac am y fantell aur o’r Oes Efydd a ganfuwyd ger y Wyddgrug. Rydych wedi clywed, efallai, am chwedl Morwyn Llyn y Fan Fach, ond tybed ydych chi’n gwybod yn union ymhle y mae’r llyn hwnnw ar y map? Mawr yw ein dyled i Valériane Leblond hefyd, a hithau yn flaenorol wedi cyflwyno chwedlau’r Mabinogion i blant drwy ei harlunwaith lliwgar a bywiog. Yma eto cawn fwynhau ei darluniau manwl ond syml, sy’n ychwanegu cymaint at y ffeithiau lu. Mae’r dylunydd Tanwen Haf hithau wedi dod â’r cyfan at ei gilydd i greu llyfr rhwydd a difyr iawn i’w ddarllen. Mae hwn yn llyfr clawr caled a mawr ei faint, a’r tudalennau dwbl yn cyflwyno Cymru yn ôl ei siroedd (yn ogystal â rhai o’i ‘hen’ siroedd traddodiadol megis Meirionnydd a Sir Drefaldwyn). Bydd eich sir chi yn ddigon cyfarwydd i chi, mae’n siŵr, ond beth am y gweddill? Gellir pori yn hamddenol drwy’r llyfr er pleser, neu ei ddefnyddio fel arf dysgu ac yn sail i ymchwil pellach. Mae’r tudalennau yn fwrlwm o ddarluniau a ffeithiau diddorol, a’r cyfan wedi’i osod ar fap o Gymru, o ddyddiadau sefydlu’r parciau cenedlaethol, i leoliad y Gwylliaid Cochion a man geni’r cynllunydd ffasiwn Julien Macdonald. Mae rhywbeth yma at ddant pawb, a bydd gan bob darllenydd ei farn, mae’n siŵr, ynghylch pa ffeithiau sydd wedi’u cynnwys (hoffwn i, er enghraifft, petai cyfeiriad at Borthaethwy fel cartref y rhaglen deledu Rownd a Rownd) ond ar y cyfan mae ffeithiau oesol yma sy’n ein helpu i ddeall, gwerthfawrogi a charu ein gwlad hyd yn oed yn fwy. Yn wir, gall hwn fod yn adnodd gwerthfawr i drefnu eich gwyliau – o gyflwyno’r ardal a’i hanes i’r plant a rhestr wirio i chithau o bopeth pwysig sydd i’w weld mewn ardal! I gyd-fynd â’r llyfr gwybodaeth hwn, ceir hefyd Llyfr Cwis sy’n fach ac yn ysgafn i deithio gyda chi, yn ogystal â Llyfr Gweithgareddau sy’n llawn posau, lluniau i’w lliwio ac ati.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781849674324
Publisert
2019-02-03
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
355 mm
Bredde
280 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
64

Forfatter
Illustratør