Cyflwyniad o fywyd a gwaith dwy awdur benywaidd o gefn gwlad Cymru yn
ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a geir yn y llyfr hwn.
Mae’n torri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes gan nad oes
ymchwil manwl wedi ei wneud cyn hyn ar Gwyneth Vaughan a Sara Maria
Saunders, dwy a bontiodd y bwlch rhwng yr awduresau petrusgar a
ddenwyd allan o’u hogofâu gan Granogwen, golygydd
y _Frythones _(1879–89), a’r rhai a ddaeth ar eu hôl yn yr
ugeinfed ganrif. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at yr amryw gyfrolau ac
erthyglau sydd wedi ymddangos ers yr 1980au ar gyfraniad hollbwysig y
Gymraes at ddiwylliant ei chenedl. Mae’n lyfr delfrydol i unrhyw un
sy’n ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth y Gymraes yn ail hanner y
bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dorri tir newydd yn hanes
llenyddiaeth y Gymraes a chyfoethogi ein dealltwriaeth o awduron
benywaidd anghofiedig y Gymru Gymraeg.
Les mer
Produktdetaljer
ISBN
9781783161980
Publisert
2015
Utgave
1. utgave
Utgiver
Vendor
University of Wales Press
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok
Forfatter