Pwy na fyddai eisiau darllen nofel sy’n dechrau gyda’r rhybudd hwn ar y dechrau: ‘Peidiwch â cheisio gwneud [hyn] eich hunain gartref. Gallai fod yn beryglus’? Ac yn wir i chi, mae angen rhybudd o’r fath! Nain druan, yn gorfod yfed ‘moddion’ George! Bydd unrhyw un sydd â dychymyg byw ac sy’n mwynhau hiwmor od a gwyrdroëdig yn sicr o fwynhau’r nofel hon, ac fe fydd unrhyw un sy’n hoff o lyfrau Roald Dahl yn sicr o'i mwynhau hefyd. Bu llawer o chwerthin yn ein tŷ ni wrth inni ddarllen y nofel hon – a hynny’n foddion ynddo’i hun! Mae cyfieithiad Elin Meek yn wych, a phob canmoliaeth am yr ymdrech penigamp gyda’r rhestr o bethau i’w rhoi yn y moddion; roeddwn i’n hoffi’r ‘codwr blew’ yn fawr! Ond gyda chyfieithiadau fel hyn, ni chredaf y byddai’n ddrwg o beth cael troednodyn neu eirfa Saesneg hefyd; nid yw pob plentyn (a’u rhieni Cymraeg/di-Gymraeg) â geiriadur wrth law, a byddai’n llawer haws dysgu gair newydd drwy dynnu sylw ato yn hytrach na’i fod yn mynd ar goll yn llif y darllen. Ac mae’r darllen yn sicr yn gorfod mynd yn gyflym yn y stori garlamus hon! Mae’r wybodaeth ychwanegol am Roald Dahl yng nghefn y llyfr yn ddiddorol iawn, ac yn ychwanegu at bleser mwynhau’r llyfr. Hyfryd yw cael clasuron fel hyn yn y Gymraeg.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781904357063
Publisert
2009-01-16
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
122

Forfatter
Oversetter
Illustratør