Roedd Mr Cadno'n gadno campus iawn. Roedd ganddo wraig gampus, plant campus a ffrindiau campus. Ond roedd yna dri ffermwr cas a chreulon yn byw ar ei bwys. Eu henwau oedd Boggis, Bunce a Bean. Roedd y tri'n gofalu am bethau gwahanol fel ieir, hwyaid, gwyddau ac ychydig o seidr. Mae'r stori'n eitha cyffrous ac mae yna ddigon o bethau'n digwydd ynddi. Mae Mr Cadno'n gampus iawn am ddwyn eu hanifeiliaid ond dydy Boggis, Bunce a Bean ddim yn hapus iawn o gwbl. Yna mae'r ffermwyr yn cael cynllun i balu twll yn yr union fan lle roedd Mr Cadno'n byw. Roedden nhw'n gobeithio y byddent yn ei lwgu ond mae Mr Cadno'n cael cynllun campus arall. Rwy'n meddwl bod hon yn stori dda iawn ac mi fydd llawer o blant eraill yn ei hoffi hefyd. Er mwyn cael gwybod yn iawn beth sy'n digwydd yn y stori, mi fyddwch angen y llyfr campus hwn gan Roald Dahl.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781849673464
Publisert
2019-02-01
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
194 mm
Bredde
126 mm
Dybde
25 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
88

Forfatter
Oversetter
Illustratør