Dyma’r math o lyfr y buaswn i wedi mwynhau ei ddarllen pan oeddwn yn blentyn, ond ceir ynddo elfennau a all apelio at ddarllenwyr o bob oed. Mae yna antur, cyfeillgarwch, trasiedi a phenderfyniadau anodd, ond a fydd yna ddiweddglo hapus? Mae’r stori’n dechrau gyda hanes Callum ac Iona yn darganfod pâr o weilch y pysgod yn nythu ar fferm teulu Callum. Mae cyfeillgarwch y ddau yn dyfnhau wrth iddynt wylio a gwarchod yr adar ond mae hynny hefyd yn creu tensiynau. Mae Callum yn teimlo bod rhaid iddo ddewis rhwng ei ffrindiau ac mae hyn yn arwain at wrthdaro. Ond mae ’na fwy o haenau i’r stori nag sy’n amlwg o’r penodau cychwynnol. Mae yna ddigwyddiad ysgytwol cyn cyrraedd hanner ffordd drwy'r nofel, ac mae'n rhaid i Callum geisio cadw ei addewid i ofalu am un o'r gweilch, er gwaethaf hyn. Daw tro annisgwyl arall wrth i'r gwaith hwn ei roi mewn cysylltiad â Jeneba, merch ifanc sy’n byw ym mhentref Kulanjango yn yr Affrig. Mae hi yn yr ysbyty yn dilyn damwain gas ac mae angen cymorth arni er mwyn medru cerdded eto. Mae presenoldeb byd natur yn allweddol yn y nofel, gyda disgrifiadau byw a hudolus iawn drwyddi. Rhannwn fyd y gweilch wrth iddyn nhw nythu, dysgwn am fywyd y fferm, dringwn i dŷ coeden Iona a Callum a theithiwn gyda’r gwalch o’r Alban i’r Affrig ac yn ôl: ‘Curodd hithau ei hadenydd a chodi i’r aer llonydd a chynnes uwchben y mangrofau a’r afon werdd. Roedd y llanw’n symud yn araf o gwmpas y twmpathau mwdlyd lle roedd crocodilod yn hepian yn y gwres. Roedd pryfed yn suo yn yr awyr a chwch pysgotwr yn arnofio gan bwyll.’ Mae yna rywbeth dyrchafol am y nofel hon. Er gwaetha’r ffaith fod gan amryw o’r cymeriadau eu trafferthion mae’r syniad o garedigrwydd, dyletswydd a chymdeithas yn gryf. Mae’r rhain i’w gweld yn hanes penblwydd Iona, yn ymateb pobl tuag at Jeneba ac yn sylwadau'r nyrs Mama Binta. Mae’r awdur yn llwyddo i gyflwyno elfennau amrywiol y nofel gan gadw’r dweud yn syml ac mae hynny’n dipyn o gamp. Mae ynddi hefyd lwyaid fawr o hiwmor.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781849670494
Publisert
2017-12-09
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
214 mm
Bredde
139 mm
Dybde
10 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
528

Forfatter
Oversetter