Dyma’r gyfrol gyntaf sydd yn ymdrin â mewnfudo rhyngwladol, cymunedau Cymru a’r Gymraeg o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol. Ers dechrau’r ganrif, cafwyd trafodaethau cynyddol am ddyfodol amrywiaeth mewn nifer o wladwriaethau, gan gynnwys Prydain a Chymru. Mae’r gyfrol hon yn mynd ati i drafod sut y mae llywodraethau ac athronwyr cyfoes wedi ymwrthod ag amlddiwylliannedd tra yn chwilio am ffyrdd newydd o uno pobl trwy iaith a diwylliant. Wrth drafod y cyd-destun damcaniaethol a pholisi, mae’r gyfrol yn tynnu ar ymchwil empeiraidd gyda mewnfudwyr, tiwtoriaid iaith a swyddogion llywodraethol Cymru, i ddatgelu safbwyntiau am integreiddio yng Nghymru ac i herio rhagdybiaethau am berthynas mewnfudwyr a’r Gymraeg. Daw cymhlethdod sefyllfa iswladwriaethol Cymru i’r brig wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan cefnogaeth dros ddwyieithrwydd, tra bod polisïau’r Wladwriaeth Brydeinig yn haeru polisi mewnfudo a dinasyddiaeth homogenaidd ac unieithog. Mae’r gyfrol yn awgrymu llwybr posibl i Gymru, felly, sef diffinio dinasyddiaeth amlethnig Gymreig a Chymraeg ei hun.
Les mer
Mae’r llyfr yn disgrifio sut y mae mewnfudwyr yn ymateb i ddysgu Cymraeg, a beth yw ymatebion y gymuned groeso yng Nghymru i fewnfudwyr yn dysgu Cymraeg; cymherir hyn gyda pholisïau Llywodraeth Prydain a rhai Llywodraeth Cymru.
Les mer
Rhagair 1 'Bringing people together around British values and that kind of thing': Dadlau'r tuhwnt i amlddiwylliannedd yng Nghymru 2 'Dinasyddiaeth Brydeinig - mae e'n clymu ni mewn': Adeiladu seiliau dinasyddiaeth Gymreig 3 'Dinesydd fydda i - dw i eisiau dysgu Cymraeg': Llunio darpariaeth Gymreig i fewn-fudwyr Ol-nodyn Nodiadau Llyfryddiaeth Mynegai
Les mer
• Ymdriniaeth gyntaf mewn llyfr sydd yn ystyried cyfraniad mewnfudwyr rhyngwladol i’r Gymraeg a sut mae hyn yn cyfrannu at ddinasyddiaeth genedlaethol Gymreig i Gymru’r dyfodol. • Mae’n datgelu nifer o safbwyntiau gan fewnfudwyr, tiwtoriaid a swyddogion llywodraethol sydd yn cadarnhau dylanwad y wladwriaeth Brydeinig ar ideolegau unigolion. • Mae’n herio rhagdybiaethau'r gymuned groeso am berthynas mewnfudwyr a’r Gymraeg a’r gallu i ddysgu’r iaith.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781786835369
Publisert
2020-04-15
Utgiver
Vendor
University of Wales Press
Høyde
216 mm
Bredde
138 mm
Aldersnivå
P, 06
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
144

Biographical note

Mae Gwennan Higham yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Mae'n ymchwilydd ym maes mewnfudwyr rhyngwladol yn dysgu Cymraeg, ac mae ei gwaith yn rhoi ystyriaeth lawn i'r goblygiadau y gall hyn ei gael ar ddiffinio amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth Gymreig.