Rhagair - Gruffudd Antur 'Rhydywernen'-Gerallt Lloyd Owen 1.Ysgrif: Gerallt ym mro ei fagwraeth - Elfyn Pritchard 'Gwahodd Llywarch i Lanfawr' - Diweddariad Gwyn Thomas 2.Ysgrif: Cywyddwyr Penllyn - Gruffudd Antur 'Blwyddyn'- R. Williams Parry 3.Ysgrif: Prifeirdd y Pum Plwy’- Alan Llwyd 'Eira ym Mhenllyn' - Alan Llwyd 4.Ysgrif: Teulu’r Tyrpeg - gol. Gruffudd Antur Ifan Rowlands - Gerallt Lloyd Owen (Barddas 13) R. T. Rowlands - Elwyn Edwards R. J. Rowlands - Dafydd Islwyn (Barddas 299/300) Ithel Rowlands - Ann Fychan (Barddas 314) 'Hiraeth am y Bala' - Dic Jones 5.Ysgrif: Ymryson y Pethe - Elwyn Edwards 'Toriad gwawr ar Dryweryn' - Elwyn Edwards 6.Ysgrif: ‘Olion fy hil a welaf’:ymateb y beirdd i foddi Capel Celyn - Hywel Griffiths 'Ffarwel i blwy’ Llangywair' (traddodiadol) 7.Ysgrif: Beirdd Cwm Cynllwyd - Beryl H. Griffiths 'Arenig' - Euros Bowen 8.Ysgrif: ‘Arenig’ Euros Bowen a J. D. Innes - Dafydd Elis-Thomas (Barddas 315) 'Llanuwchllyn' - Bobi Jones 9. Ysgrif: Hwiangerddi O. M. - Haf Llewelyn
Les mer
Un o uchafbwyntiau’r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr oedd teyrnged Gruffudd Antur i Gerallt Lloyd Owen. Pluen arall yn ei het yw’r gyfrol hon a olygwyd ganddo – cyfrol sy’n olrhain y traddodiad barddol ym mhum plwy Penllyn. Bu iddo gasglu nifer o erthyglau a darnau barddoniaeth rhwng dau glawr. Fe gyfrannodd hefyd erthygl sylweddol ei hun am hynt a helynt beirdd yr uchelwyr yn yr ardal, gan olrhain y traddodiad yn ôl i’r chwedl am Lywarch Hen yn ceisio lloches yn Llanfor. Beryl H. Griffiths sydd wedi bod wrthi'n crynhoi hanes y traddodiad barddol mwy gwerinol yn yr ardal yn y cyfnod rhwng diflaniad beirdd yr uchelwyr a’r ugeinfed ganrif, trwy drafod englynion a gwatwargerddi Cwm Cynllwyd. Ni fyddai unrhyw drafodaeth ar draddodiad llenyddol Penllyn yn gyflawn heb gyfeiriad at O. M. Edwards, a Haf Llewelyn gafodd y gwaith o drafod ei gasgliad ef o hwiangerddi. Mae’r gyfrol yn cloi gydag ysgrif dreiddgar Hywel Griffiths ar ymateb y beirdd i foddi Tryweryn. Ysgrifau canolog y gyfrol yw’r rhai sy’n ymwneud â’r traddodiad barddol yn yr ugeinfed ganrif. Mae’n gwbl addas mai’r ysgrif agoriadol yw’r un gan Elfyn Pritchard sy’n sôn am fagwraeth Gerallt Lloyd Owen a’r dylanwadau arno. Mae marwolaeth ddiweddar y cyn-feuryn yn bwrw ei chysgod tros y gyfrol i gyd. Wrth drafod blynyddoedd ei fagwraeth yn y Sarnau, cyfeirir at gamp Gerallt yn cipio cadair yr Urdd am y trydydd tro yn 1969. Gwneir y sylw craff hwn. ‘Yn wir,’ meddir, ‘bu’n ffigwr cenedlaethol weddill ei oes ... ac ar adegau roedd y gofynion arno’n drwm a’r disgwyliadau’n drymach, yn rhy drwm efallai.’ Meuryn y Talwrn radio oedd Gerallt i lawer, wrth gwrs. Llwydda Elwyn Edwards i olrhain gwreiddiau’r gyfres honno i’r ymrysonau a gynhelid ym Mhenllyn, yn arbennig yn y cyfnod pan oedd Alan Llwyd yn byw yn yr ardal. Gan Alan Llwyd ei hun fe gawn ysgrif ar brifeirdd Penllyn. Dywed fod tri math ohonynt sef y prifeirdd brodorol, y prifeirdd hirdymhorol a’r prifeirdd byrdymhorol (R. Williams Parry yn un ohonynt). Bwriadaf aros eiliad gydag un o’r prifeirdd byrdymhorol hyn. Os rhywbeth, mae’n bwrw ei gysgod tros y gyfrol yn fwy na Thryweryn a Gerallt Lloyd Owen hyd yn oed. Euros Bowen yw’r bardd hwn. Heblaw am y sylw a roddir iddo gan Alan Llwyd fe drafodir ei waith hefyd mewn ysgrifau gan Dafydd Elis-Thomas a Geraint Bowen. Mae yna gysylltiad hefyd rhwng ei gerdd 'Arenig' sydd wedi ei chynnwys yn y llyfr a’r llun ar y clawr. Dywed Alan Llwyd mai Gaeaf 1947 ym Mhenllyn wnaeth fardd o Euros Bowen. Yr ardal hon oedd yr ysbrydoliaeth i lawer o’i gerddi ac fe enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith tra oedd yn byw yn y cylch. (Gyda llaw, byddai mân reolau’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw yn golygu na châi Euros y goron am y cerddi hyn a hynny am eu bod mewn cynghanedd gyflawn.) Byddai ein llenyddiaeth ar ei cholled yn arw pe bai’r rheol hon mewn bodolaeth yn 1948 ac 1950. Fe’m gwefreiddiwyd gan yr amrywiol drafodaethau ar Euros Bowen. Ers ei farwolaeth ni fu cymaint â hynny o sôn amdano ond fe lwyddwyd yn y gyfrol hon i adfer ei le a hynny'n anrhydeddus yn ein traddodiad llenyddol. Tybed, ar ôl iddo orffen ei gofiant i Gwenallt, a ellir temtio Alan Llwyd i fynd i’r afael ag Euros Bowen? Mae’n amlwg fod ganddo'r wybodaeth a’r weledigaeth i wneud hynny. Mae un ysgrif arall yn y gyfrol sydd yn dyst i wytnwch y traddodiad barddol ym Mhenllyn. Trafodir yn honno gyfraniad ‘Beirdd y Tyrpeg’ – Ifan Rowlands, R. T. Rowlands ac Ithel Rowlands – i’n bywyd llenyddol, tri pherthynas y mae eu gwaith yr un mor arwyddocaol â chyfraniad Teulu’r Cilie. O’r llun ar y clawr blaen i’r dyfyniad o’r ddrama Blodeuwedd ar y cefn, mae hon yn gyfrol eithriadol werthfawr a mawr yw ein dyled i’r golygydd am ei chasglu ynghyd.
Les mer
Hogyn o Lanuwchllyn yw Gruffudd Antur, ac mae gwreiddiau ei deulu ar y ddwy ochr yn gadarn yn naear Penllyn. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn, a’i addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn, y Bala. Ar ôl cael blas ar y pwnc ar gyfer ei Lefel A, aeth yn ei flaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Ffiseg, gan raddio gyda gradd ddosbarth cyntaf yn 2013. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’n astudio ar gyfer gradd MA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac ym mis hydref eleni bydd yn dechrau ar ei ddoethuriaeth. Mae Gruffudd yn cydnabod dylanwad nifer o bobl arno yn ystod blynyddoedd ei addysg, ac fe fanteisiodd yn llawn ar y bywyd diwylliannol Cymreig ym mro ei febyd. Er y bu’n ysgrifennu cerddi er yn blentyn, datblygodd ddiddordeb mewn barddoniaeth ac yn y gynghanedd o dan adain y Prifardd Elwyn Edwards yn dilyn gwersi cynghanedd ganddo yn 2008, ac ers hynny bu’n ddigon ffodus i fod yn rhan o dimoedd talwrn Ysgol y Berwyn a Phenllyn, timoedd ymryson Meirion a’r Disgyblion Ysbas a chael cymryd rhan mewn nifer o nosweithiau barddol eraill. Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol bedair gwaith a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn Eryri yn 2012 a thrachefn yn ei filltir sgwâr yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Mae Gruffudd hefyd wedi cyfieithu llyfrau plant i’r Gymraeg, bu’n gyd-olygydd ac un o sefydlwyr 'Yr Heriwr', papur newydd myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth, ac yn gyd-olygydd rhifyn o 'tu chwith'. Ym mis Awst eleni y fo oedd Bardd Preswyl y mis ar Radio Cymru. Cyhoeddir ei waith yn rheolaidd mewn cylchgronau megis 'Barddas', 'tu chwith' a 'Barn', ac mae ganddo golofn yn y cylchgrawn ar gyfer cynganeddwyr, 'Y Glec'.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396770
Publisert
2014-11-17
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
176

Redaktør