Dyma gyfrol werth ei phrynu i'r cartref ac i'r ysgol. Cyfuniad o gerddi traddodiadol a chyfoes a geir yma, cerddi sy’n cyffwrdd â phob agwedd: y synhwyrau, chwaraeon, hamdden, teithio, Nadolig, yr amgylchedd a llawer mwy. Sgram go iawn! Mae'r cerddi'n syml ac yn apelgar gan gynnwys gwahanol dafodieithoedd gydag amrywiol fesurau a phatrymau barddonol. Hoffais y parodïau ar yr hwiangerddi, y gwahoddiadau ar ffurf penillion, y limrigau a'r cerddi wedi'u hysgrifennu ar ffurf siapau. Mae'r gyfrol yn gyforiog o syniadau ar sut i ddenu plant at farddoniaeth a hefyd yn eu hannog i lunio ambell bwt o gerdd eu hunain. Syniad da oedd rhoi geirfa mewn bocs lliw ar bob tudalen. Mae'r amrywiaeth o wahanol luniau ar bob tudalen yn fendigedig. Maent yn llawn manylder di-ben-draw ac yn gyfrwng ardderchog i ennyn sgwrs a thrafodaeth. Roedd ychwanegu'r cryno-ddisg yn syniad da hefyd ac yn adnodd gwerthfawr – mae'r amrywiol leisiau sy'n darllen y cerddi'n hyfryd. Beth am fentro i greu disg rhyngweithiol?
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781908574091
Publisert
2012-02-03
Utgiver
Vendor
Atebol
Høyde
210 mm
Bredde
210 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
112

Redaktør
Illustratør