Dweud yr hanes fesul blwyddyn mae’r gyfrol hon, gydag adran gychwynnol yn esbonio cefndir y gwrthdaro, ac adran glo yn trafod sgileffeithiau’r brwydro. Mae pob tudalen yn llawn gwybodaeth a ffeithiau, wedi’u trefnu mewn dull sy’n apelio yn hytrach nag yn blino rhywun. Mae yna luniau, mapiau, darluniau a phosteri di-rif, ac adrannau bychain yn cyfleu ffaith neu ddwy ychwanegol ar ymyl pob tudalen. Ceir digon i ddenu’r llygaid a’r diddordeb, ac ambell lun cofiadwy iawn nad wyf wedi eu gweld o’r blaen, fel y llun o’r menywod o Rwsia a wirfoddolodd i ymuno â'r brwydro, ac yn cael eu hyfforddi yn St. Petersburg. Oherwydd anferthedd y pwnc, dyw hi ddim, efallai, yn gyfrol i’w darllen ar un tro. Mae’r prif ddigwyddiadau i gyd yma a digon o gefndir yn rhoi cyd-destun iddyn nhw. Fe ddarllenwn am ddatblygiad gwahanol fathau o arfau a dulliau o ymladd, y tensiynau gwleidyddol, propaganda, effaith y rhyfel gartre a phrofiadau’r milwr cyffredin. Os ydych chi eisiau gwybodaeth bellach am bwnc neu ddigwyddiad, yna rhaid troi at ffynonellau eraill, ond fel arolwg o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ei gyfanrwydd mae’r gyfrol hon yn ardderchog. Gan mai cyfieithiad o lyfr Saesneg yw hwn does yna fawr o sylw i Gymru heblaw am frawddeg am Hedd Wyn a dau gyfeiriad at Lloyd George. Ond mae’r esboniadau'n syml a darllenadwy ac mae’r llyfr yn llwyddo i gyfleu cymhlethdod a hylltra’r rhyfel, a hefyd sut yr arweiniodd y tensiynau hynny a oedd yn bodoli wedi’r cadoediad a chytundeb Versailles yn anorfod at yr Ail Ryfel Byd.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781849672054
Publisert
2015-02-06
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
228 mm
Bredde
162 mm
Dybde
10 mm
Aldersnivå
JC, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
96

Forfatter
Oversetter