Pyrsi, un o ffrindiau Tomos y Tanc, ydy’r prif gymeriad yn y stori anturus hon. Mae Pyrsi yn injan ddireidus a hoffus sy’n mwynhau chwarae triciau ar injans eraill yn y cwmni. Mae Pyrsi wedi addo mynd â phlant yr ysgol Sul adref. Mae’n straffaglu drwy lifogydd i gadw at ei air. Ar ddiwedd y stori mae pawb yn meddwl fod Pyrsi yn dipyn o arwr. Dyma brif neges y stori, sef pwysigrwydd cadw'ch addewid. Yr hyn sy’n weddol amlwg yn y stori ydy’r tebygrwydd rhwng injans a phobl o gig a gwaed. Mae 'na injans blin a chrintachlyd – yn union fel llawer o bobl! Mae 'na injans dewr a phobl ddewr. Mae ’na bobl ddrygionus a hyd yn oed injans bach drygionus. Mae cyfle yma felly i blant ddysgu am hanfodion cymeriadau o bob math ac i’w trafod yng nghyswllt injans trên. Mae’r lluniau yng nghyfresi Tomos y Tanc bob amser yn ychwanegu at y stori mewn ffordd wreiddiol iawn. Mae’n hawdd gwybod be' sy’n digwydd drwy edrych ar y llun. Dyma lyfr bach hwylus sy’n hawdd i’w roi mewn bag llaw neu fag cefn plentyn bach gan ei fod yn fychan ac yn ysgafn. Mae’r pris yn deg ac yn rhesymol am stori dda gyda lluniau diddorol.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781904357124
Publisert
2009-07-30
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
148 mm
Bredde
130 mm
Dybde
40 mm
Aldersnivå
E, 12
Språk
Product language
Engelsk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
34

Oversetter