Pwy ar wyneb y ddaear feddyliodd y byddai plant yn cael eu swyno gan stori am grocodeil rheibus sydd â'i fryd ar eu llowcio nhw'n gyfan? Pwy ond Roald Dahl. Ac wrth gwrs, roedd e'n iawn! Dyma i chi grocodeil sy'n mynnu mai merch neu fachgen bach yw'r pryd mwya blasus sy'n bod. Yn anffodus (iddo fe), mae e hefyd yn grocodeil twp. Dyw e ddim yn gallu cadw'i ddymuniadau'n gyfrinach, ac wrth iddo ymlwybro drwy'r jyngl er mwyn llenwi ei fol â phlant y dre, mae'n rhannu ei ddymuniadau gyda chreaduriaid y jyngl. Nhw yw'r arwyr. Boldew yr Hipopotamws, Sbonc y Mwnci, y Deryn Plu Lliwgar a Thrwnc yr Eliffant sy'n achub y plant, ac yn sbwylio “cynlluniau cyfrinachol” y dihiryn. Diolch i Trwnc, mae'r hen grocodeil yn y pen draw yn cael ei daflu ar ei ben i'r haul, ac yn cael ei “ffrio fel sosej!”. Mae dawn Roald Dahl i hoelio sylw plant, a chreu gwefr a dychryn ar yr un pryd, yn unigryw. Mae fy merch yn cydio'n dynn yn fy mraich pan fydda i'n darllen y stori, ond dyw hi byth yn blino arni. Ac mae llawer o'r diolch am hynny i addasiad llwyddiannus Elin Meek. Mor braf yw gallu cyflwyno clasuron bach fel hyn i'n plant yn Gymraeg. Ac mae'n gyfle i wledda ar eirfa liwgar fel - ‘Yr hen walch cas barus’, ‘y croc ffyrnig’, ‘y cnaf ffiaidd’ – i nodi dim ond rhai disgrifiadau o'r crocodeil anferthol. Pa un a ydynt yn gwrando ar eu rhieni'n darllen neu'n darllen eu hunain, mae plant wrth ei bodd â'r stori hon. Mae lluniau gwych Quentin Blake yn dod â'r stori hyd yn oed yn fwy byw, yn enwedig i'r plant lleia. Does ryfedd mai Roald Dahl (fel mae clawr y llyfr yn ei nodi) yw storïwr plant gorau'r byd.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781904357070
Publisert
2009-05-18
Utgiver
Vendor
Rily Publications Ltd
Høyde
128 mm
Bredde
198 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
64

Forfatter
Oversetter
Illustratør