Mae dementia'n effeithio ar 850,000 a rhagor o bobl yn y Deyrnas Unedig, gyda gofalwyr di-dâl yn gofalu am y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae’r argraffiad newydd yma o Pan fo rhywun annwyl â dementia yn trafod materion ymarferol ac emosiynol i’w hystyried os ydych chi’n amau bod clefyd Alzheimer neu ffurf arall ar ddementia ar rywun yr ydych chi’n ei garu, neu’n gwybod hynny. Mae’n egluro’r effaith bosibl ar eich perthynas ac arnoch chi a’r teulu, a sut i gael yr help a’r gefnogaeth angenrheidiol. Dyma’r pynciau dan sylw:
• sut i gael help meddygol, hyd yn oed os yw’ch perthynas yn gwadu bod unrhyw beth o’i le
• mathau o ddementia, yn cynnwys clefyd Alzheimer, dementia cyrff Lewy a dementia fasgwlar
• dementia ar eich cymar
• sut mae meddyginiaeth yn gallu helpu a’r wybodaeth ddiweddaraf am ba gyffuriau sydd ar gael
• therapi a thriniaethau heb gyffuriau, yn cynnwys aromatherapi
• sut i gynnal sgiliau a galluoedd
• delio â materion ymarferol – cof ac ymddygiad
• cymorth allanol, budd-daliadau a gwasanaethau
• gofal preswyl
• ymdopi â bod yn ofalwr

- Cyhoeddwr: Graffeg,

Dementia affects over 850,000 people in the United Kingdom, with most being looked after by unpaid carers. In this comprehensive handbook, Susan Elliot-Wright says that understanding this highly common condition can raise awareness of the same and help to improve the quality of life of all who live under its shadow.
Les mer
Dementia affects over 850,000 people in the United Kingdom, with most being looked after by unpaid carers. In this comprehensive handbook, Susan Elliot-Wright says that understanding this highly common condition can raise awareness of the same and help to improve the quality of life of all who live under its shadow.
Les mer
Awdur sy'n gweithio ar ei liwt ei hun yw Susan Elliot-Wright. Cafodd ei hyfforddi i fod yn newyddiadurwraig cylchgronau, gan ysgrifennu cannoedd o erthyglau i bapurau newydd a chylchgronau, yn ogystal â phedwar llyfr gwybodaeth am iechyd i bobl ifanc a'r llyfrau canlynol i Sheldon Press: Coping with Type 2 Diabetes (2006), Living with Heart Failure (2006), Overcoming Insomnia (2008), Coping with Epilepsy in Children and Young People (2009), ac Overcoming Emotional Abuse (ail argraffiad, 2016). Bellach mae hi'n canolbwyntio'n bennaf ar ffuglen. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Things We Never Said, yn 2013, a'i hail, The Secrets We Left Behind, yn 2014, y ddwy gan Simon & Schuster. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, What She Lost, ar ddechrau 2017 ac mae hi'n gweithio ar ei phedwaredd ar hyn o bryd. Mae'n byw yn Sheffield gyda'i gŵr.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781912654888
Publisert
2019-04-24
Utgiver
Graffeg Limited
Høyde
216 mm
Bredde
138 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
128

Oversetter