‘Bragdy’r Beirdd’ yw’r enw a roddir i gyfres o nosweithiau barddol sydd wedi eu cynnal yng nghlybiau a thafarndai Caerdydd ers 2011. Ymgais yw’r gyfrol hon i gostrelu, felly, rywfaint o flas y nosweithiau hynny a’u holl rialtwch, ynghyd â chofnodi profiadau a sylwadau rhai o’r beirdd a berfformiodd ynddynt dros y blynyddoedd.
Cyfrol o gerddi yw hon, yn anad dim arall, er bod ambell ysgrif a phwt o ryddiaith hefyd yn rhan o’r brag, heb sôn am ffotograffau o feirdd ac o bosteri a lleoliadau rhai o’r nosweithiau (e.e. y Columba Club ar Heol Llandaf yn y brifddinas). Yn hyn o beth, mae’r diwyg a’r dyluniad yn lliwgar ac yn gyfoes, a hynny’n ychwanegu at y teimlad taw llyfr lloffion o ddathliad yw hwn, llyfr sydd, fel y Bragdy ei hun, yn awyddus i’n hatgoffa ni nad peth sych, confensiynol a henboblaidd yw barddoniaeth a sin farddol y criw arbennig hwn.
A phwy yw’r criw? Mae’r broliant clawr cefn yn enwi Gruffudd Antur, Catrin Dafydd, Gwennan Evans, Gwyneth Glyn, Rhys Iorwerth, Geraint Jarman, Osian Rhys Jones, Aneirin Karadog, Llŷr Gwyn Lewis, Anni Llŷn, Gruffudd Owen, Aron Pritchard a Casia Wiliam, ond cawn hefyd air byr o brofiad gan Mari George, Grug Muse ac Eurig Salisbury yn eu tro. Y cwbwl, felly, yn enwau cyfarwydd i ddilynwyr y Bragdy, y Stomp, y <i>Talwrn</i> a’r Eisteddfod Genedlaethol, a nifer ohonyn nhw – yn ôl y drefn gyfoes – yn dalentau amlwg mewn mwy nag un maes.
Yn dilyn rhagair y golygyddion sy’n esbonio cefndir a bwriad sefydlu’r Bragdy, ynghyd â chyfaddef taw ‘peth anodd ... yw ceisio ail-greu cyffro a bywiogrwydd noson fyw rhwng cloriau sychion’, dyma fwrw at y cerddi a’r cyfraniadau (a nifer o’r rheini’n gymorth ymarferol i ddod i ddeall yn well natur nosweithiau’r Bragdy, yn ymestyniad, fel petai, o’r rhagair).
Fel yn eu perfformiadau byw, ac yn synhwyrol iawn, mae nifer o’r beirdd yn cynnwys rhagymadrodd byr i’w cerddi, er mwyn rhoi cyd-destun neu switsys i’r darllenydd. Dewisodd y golygyddion yn ddoeth, serch hynny, gan wneud pob ymdrech i hepgor cerddi roedd-rhaid-i-chi-fod-’na-ar-y-pryd neu gerddi a fyddai’n hygyrch i selogion y Bragdy’n unig.
Mewn cyfrol wirioneddol ddifyr ar ei hyd, gwnaed ymdrech hefyd i gynrychioli ystod cyweiriau’r Bragdy, ac mae’n braf felly taro ar ambell gerdd fwy myfyriol neu agos-atoch ynghanol y cerddi perfformio gorchestol (ac mae rhai o’r rheini, e.e. ‘Hwiangerddi sinigaidd i blant bach annifyr’ gan Gruffudd Owen, yn gwbwl orchestol).
At Lys Ifor Hael, at y Pentre Arms, ychwanegwch enw Bragdy’r Beirdd.
- Ceri Wyn Jones @ www.gwales.com,