Dyma dymor y chwilio am anrhegion cain i’w rhoi wrth y goeden Nadolig, a bydd y llyfr clawr caled hwn a’i ddiwyg hardd yn apelio at lawer. Me'n llyfr hawdd picio i mewn iddo a mwynhau cerdd neu ddwy sydd wedi cyffwrdd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd â deg ar hugain o 'sêr', a darllen eu rhesymau am ddewis y cerddi hynny.

Y cwestiwn sy’n codi yn fy mhen i bob amser wrth weld y gair ‘sêr’, neu eiriau cyfatebol, fel <i>celebrity</i> yn Saesneg, yw pam dewis y bobl arbennig hyn? Y duedd yw i berfformwyr a phobl y cyfryngau ddewis o blith ei gilydd yn unig, a dyna a wnaed yma i raddau helaeth iawn. Lle mae’r athrawon, y meddygon, y nyrsys, y cyfreithwyr a’r cyfieithwyr, y gwyddonwyr a’r peirianwyr, ac yn wir y gwleidyddion (ar wahân i Dafydd Iwan, sy’n berfformiwr hefyd)? Nid ar yr unigolion a ddewiswyd y mae’r bai, wrth gwrs, ac mae’n hyfryd darllen sylwadau pobl fel Caryl Parry Jones, Brian Hughes, Matthew Rhys ac ati: mae’r bai ar y cyfryngau am beidio â rhoi digon o sylw i bobl sy’n dod i frig eu proffesiynau mewn meysydd eraill, neu i bobl sy’n gwneud cyfraniad gwiw yn wirfoddol.

Yn ffodus, dydy’r ‘sêr’ yn y gyfrol hon ddim i gyd yn eu cymryd eu hunain ormod o ddifri. Mae John Ogwen, yn arbennig, yn barod iawn i godi gwên ar ei draul ei hun, wrth adrodd yr hanes amdano’n cystadlu yn rownd derfynol <i>Talwrn y Beirdd</i>, ac wrth gerdded ymlaen i gyflwyno ei englyn yn clywed llais Gerallt Lloyd Owen yn adrodd y tu ôl iddo:

Peth digri iawn yw berfa
Sydd isio bod yn dractor,
Peth trist yw isio bod yn fardd
A chitha’n ddim ond actor!

Mae darllen y cyflwyniadau i’r cerddi yn ddifyr, a’r rhesymau am eu dewis yn amrywio o atgofion am blentyndod i werthfawrogiad o ddylanwadau amrywiol. Ac er gwaethaf y cefndir tebyg sydd gan lawer o’r cyfranwyr, mae’r cerddi a ddewiswyd yn amrywiol iawn hefyd. Ceir dwyster ‘Cwmorthin’ gan Gwyn Thomas ar un pegwn a doniolwch ‘Y Ddafad Gorniog’ ar y llall, gyda cherdd fel ‘Nene Ene’, Gwynne Williams yn cyfuno’r dwys a’r doniol. Bydd rhai cerddi’n cynhesu eich calon oherwydd eu bod yn hen ffrindiau cyfarwydd, ac eraill yn cynnig profiadau newydd, gwerthfawr. Tybed a fydd y pleser o droi dalennau’r gyfrol hon yn aros amdanoch fore dydd Nadolig?

- Glenys M. Roberts @ www.gwales.com,

Following on from the successful first volume Cerddi'r Sêr, this volume presents a collection of the best-loved poems and short essays of famous Welsh personalities, together with the reasons for their choices.
Les mer
Following on from the successful first volume Cerddi'r Sêr, this volume presents a collection of the best-loved poems and short essays of famous Welsh personalities, together with the reasons for their choices.
Les mer
Hoff gerddi ac esboniadau gan: Matthew Rhys Caryl Parry Jones Dafydd Iwan Alys Williams Lisa Gwilym Heledd Cynwal Lleuwen Steffan Mark Lewis Jones John Ogwen Tara Betha Aeron Pughe Sioned Terry Aled Hughes Roy Noble Cefin Roberts Catrin Finch Ed Holden Huw Edwards Beti George Trystan Ellis-Morris Huw Stephens Brian Hughes Rhodri Owen Betsan Powys Richard Elis Siw Hughes Rhodri Gomer Ffion Dafis Wil Tân Daniel Lloyd
Les mer
Mae Rhys Meirion yn mwynhau gyrfa ddisglair fel tenor, gan deithio i bedwar ban byd. Ymgartrefodd yn Rhuthun, Sir Ddinbych, lle mae'n byw gyda'i deulu. Y mae hefyd yn gyflwynydd adnabyddus ac wedi gwneud llawer o waith yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, ac i Gronfa Elen. Yn 2014 cyhoeddodd hunangofiant gyda gwasg y Lolfa, gyda chyfrol gyntaf Cerddi'r Sêr yn cael ei chyhoeddi yn 2017 gan Gyhoeddiadau Barddas.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781911584186
Publisert
2018-10-01
Utgiver
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
170 mm
Bredde
170 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
136

Redaktør