Cyfrol ddeniadol wedi ei hargraffu mewn un lliw ac yn cynnwys 20 o bortreadau du a gwyn o Gymry adnabyddus gan y ffotograffydd, Iolo Penri.
Meddai Rhys Meirion yn y Rhagair: 'Fel canwr, dwi mewn sefyllfa hynod o foddhaol a breintiedig o gael dehongli geiriau rhai o’n beirdd gorau ni a hynny ar gerddoriaeth rhai o’n cyfansoddwyr gorau ni. Pan mae’r briodas ysbrydoledig yna yn digwydd rhwng geiriau ac alaw, yn aml mae’r cyfuniad yn ein codi – boed yn berfformiwr neu’n wrandawr – i rhyw fyd arall am eiliad, ar garped hud o emosiwn ... Wrth baratoi a dysgu cân newydd, fydda i bob amser yn darllen y geiriau eu hunain fel barddoniaeth yn y lle cyntaf. Does yna ddim byd tebyg i ddarllen darn newydd o farddoniaeth a gadael i’r geiriau, yr acenion, yr odl, y cymariaethau a’r disgrifio greu delweddau yn ein pen sydd yn tanio’n dychymyg, yn lleddfu’n poenau ac yn ein hysbrydoli i wynebu rhyw sialens neu rhyw newid pwysig yn ein bywydau.
Fydda i wrth fy modd yn darllen barddoniaeth o bob math, boed nhw’n gerddi â strwythur iddyn nhw neu’n rhai cwbwl rydd. Mae’r gynghanedd, hefyd, yn dod â phleser pur, ac efallai fod ychydig o waed fy hen daid, Thomas Richards y Wern, sef awdur englynion ‘Ysgyfarnog’ a’r ‘Ci Defaid’ a ddaeth yn fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol, yn rhedeg yn fy ngwythiennau yn hyn o beth.'
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,