Mae Mali a Dylan yn deffro un bore i ddarganfod morfil wedi’i olchi i fyny ar y traeth.
Mae tad Mali yn dangos iddynt sut i ofalu am y morfil wrth iddyn nhw aros i’r llanw ddod i mewn. Mae Mali yn canu i’w thawelu, tra bod y plant a’u ffrindiau yn gweithio gyda’i gilydd i’w chadw yn oer ac yn wlyb. Ond a fyddant yn llwyddo i helpu’r morfil yn ôl i’r môr mewn pryd?

- Cyhoeddwr: Graffeg,

Heb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy’r darluniau. Mae’r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae’r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai’r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o’r silff lyfrau.

Mae hon yn stori am ddau blentyn sy’n mynd i lawr at y traeth ar ôl storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, maen nhw’n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw’r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw’r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae’r plant yn aros ar ddi-hun trwy’r nos, sy’n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i’n tybio y bydd yn plesio’r rhai sy’n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi cân fach i gysuro’r morfil a’i gadw’n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub.

Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae’r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae’r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. ‘cyhyd’, ‘aiff’), a allai fod yn anodd neu’n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae’r llinell storïol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae’n siŵr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy’r amser.

Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi’n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy’n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tîm ac fel rhan o’r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae’r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda’r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae’r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig â’r stori, wrth i’r lliw a lluniau lenwi’r dudalen gyfan.

Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a’r ddealltwriaeth sy’n datblygu heb eiriau rhwng Mali a’r morfil a dw i’n siŵr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref.

- Mererid Haf @ www.gwales.com,

A sequel to the acclaimed Molly and the Stormy Sea, this is a moving tale from master storyteller Malachy Doyle and illustrator Andrew Whitson about working together to help a creature to return to its habitat.
Les mer
A sequel to the acclaimed Molly and the Stormy Sea, this is a moving tale from master storyteller Malachy Doyle and illustrator Andrew Whitson about working together to help a creature to return to its habitat.
Les mer
Malachy Doyle has over 100 children's books published by leading English, Welsh and Irish publishers, from picture books to teenage novels. His work has been translated into 27 languages and he is a previous winner of the Tir na n-Og Award (Georgie), the Nestle Children's Book Award (The Dancing Tiger), the English Association Award for Non-Fiction (Cow) and many other awards in the UK and USA. Andrew Whitson has illustrated books on various aspects of Irish mythology including The Creatures of Celtic Myth, The Field Guide to Irish Fairies and The Dark Spirit. In 2011, Andrew received the Bisto honorary award for book illustration.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781913134327
Publisert
2019-07-12
Utgiver
Graffeg Limited
Høyde
250 mm
Bredde
250 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
36

Forfatter
Oversetter
Illustratør