Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn
cyflwyno’r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant, y naturiaethwr
a'r teithiwr o Sir y Fflint, ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith.
Er gwaethaf ei fri rhyngwladol yn ei ddydd, esgeuluswyd Pennant yn
ddiweddarach gan ei gydwladwyr mewn cof niwlog fel ‘teithiwr’.
Cynigir yma ddarlun mwy cymhleth sy’n cydnabod ei le fel un o
feddylwyr polymathig yr Oleuedigaeth, â’i ddiddordebau’n
rhychwantu byd natur, celf a hynafiaethau. Edrychir ar y Cymry
allweddol a ddylanwadodd ar ei waith – o Forrisiaid Môn, sylfaenwyr
Cymdeithas y Cymmrodorion, hyd at John Lloyd, rheithor rhadlon
Caerwys, a’r artist Moses Griffith o Ben Llŷn. Wrth bendroni sut y
ciliodd Pennant o olwg ei gyd-Gymry, ystyrir argyfwng adroddiad y
Llyfrau Gleision a’r wleidyddiaeth ieithyddol a ddaeth yn ei sgil,
cyn ymddangosiad cyfieithiad llawn yn y Gymraeg o’r _Teithiau yng
Nghymru_, ganrif wedi marwolaeth yr awdur.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu dan y Drwydded Ryngwladol Creative
Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0. I weld copi o'r
drwydded hon, ewch i: http://creativecommons.org/licenses/bync-nd/4.0/
neu anfonwch lythyr at Creative Commons, PO Box 1866, Mountain View,
CA 94042, UDA.
Les mer
Cysylltiadau Cymreig
Produktdetaljer
ISBN
9781837722938
Publisert
2025
Utgave
1. utgave
Utgiver
Ingram Publisher Services UK- Academic
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok
Forfatter