Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ȃ thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.
Les mer
Rhagair Rhestr dyddiadau a ffeithiau bywgraffyddol Byrfoddau Pennod 1: Emrys ap Iwan yn yr ugeinfed ganrif a thu hwnt i. T. Gwynn Jones a Saunders Lewis ii. R. T. Jenkins a D. Myrddin Lloyd iii. Yr adwaith a chanol y ganrif iv. Y saithdegau a’r wythdegau v. Y ganrif newydd Pennod 2: Y Beibl a’r cyd-destun diwinyddol i. Emrys ap Iwan a’r Beibl ii. Y cyd-destun diwinyddol Pennod 3: Emrys ap Iwan a sylwedd y ffydd i. Trindodaeth a’r athrawiaeth am Dduw ii. Cristoleg ac athrawiaeth yr iawn Pennod 4: Ufudd-dod ffydd, yr eglwys a’r sacramentau i. Ffydd, gweithredoedd a phrofiad ii. Athrawiaeth Emrys am yr eglwys iii. Y sacramentau: bedydd a’r cymun Pennod 5: Cenedlaetholdeb a diwinyddiaeth diwylliant i. Cenedlaetholdeb Emrys ii. Y gorchymyn diwylliannol Pennod 6: Eschatoleg a’r Farn Pennod 7: Bwrw golwg yn ôl Mynegai
Les mer
Mae D. Densil Morgan yn Athro Emeritws mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Mae’n awdur ar grefydd yng Nghymru, ac ar waith Karl Barth, y diwinydd o’r Swistir.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781837721986
Publisert
2024-09-15
Utgiver
University of Wales Press
Høyde
216 mm
Bredde
138 mm
Dybde
7 mm
Aldersnivå
P, 06
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet

Forfatter