Dyma’r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o’r
cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan
wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i’r
ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad,
datblygiad a phrosesau’r bydysawd? A all Cristnogion barhau i
gyffesu yng ngeiriau’r Credo, ‘Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog,
Creawdwr nefoedd a daear’? Ac a fedrant goleddu’r Ffydd
Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy’r Ysgrythurau ac a gyffesir gan
draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu’r ffydd hon o
hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am
darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am
fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid ‘yr atheistiaeth newydd’ yn
honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl – cred sicr awduron y gyfrol
hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a
gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o’r naill yn cyfoethogi’n
dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i’n
galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy’n tarddu yn ei
fwriad a’i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy’n ddibynnol ar
y bydysawd hwnnw.
Les mer
Produktdetaljer
ISBN
9781786831286
Publisert
2018
Utgave
1. utgave
Utgiver
Vendor
Gwasg Prifysgol Cymru
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok
Forfatter