Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y
pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno
sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei
weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg
yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno,
a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod
â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth
Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn
gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith
a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ȃ thrafod ei gyd-destun
hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith
Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.
Les mer
Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan
Produktdetaljer
ISBN
9781837721993
Publisert
2024
Utgave
1. utgave
Utgiver
Ingram Publisher Services UK- Academic
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok
Forfatter