Lewis Edwards (1809–87) oedd pennaf ysgolhaig Cymru’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg ac yn un a gododd safonau y Gymru Ymneilltuol a’u
gosod ar seiliau dysg rhyngwladol. Yn Fethodist Calfinaidd o ran ei
fagwraeth a’i argyhoeddiadau, yfodd yn ddwfn o dduwioldeb ei gyfnod.
Mynnodd gymathu ei ysbrydolrwydd â dysg, a thrwy hynny bu’n
anniwall am ei addysgu ei hun, yn gyntaf mewn ysgolion gwlad lleol yng
Ngheredigion, ei sir enedigol, yna ym Mhrifysgol Llundain, ond yn
bennaf ym Mhrifysgol Caeredin, sef yr unig brifysgolion a oedd yn
agored i Ymneilltuwyr Protestannaidd na allent gydymffurfio, o ran
cydwybod, â’r Eglwys Wladol. Oni bai am hynny i Brifysgol Rhydychen
yr âi. Yn ogystal ag ymorol am ddysg, mynnodd gyfuno ei grefydd
brofiadol, Fethodistaidd, â diwylliant secwlar, yn llenyddol ac yn
athronyddol, rhywbeth a wnaeth yn bur lwyddiannus yn ystod ei gyfnod
wrth draed yr awdur ‘Christopher North’ a’r ysgolhaig Thomas
Chalmers yn yr Alban (1833–6).
Les mer
Produktdetaljer
ISBN
9780708322437
Publisert
2015
Utgave
1. utgave
Utgiver
Ingram Publisher Services UK- Academic
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok
Forfatter