Drwy rodio mynwentydd glannau Bae Ceredigion, buan y sylweddolir pa mor bwysig oedd y môr ym mywydau trigolion y tir mawr. Yn wir, wrth ddarllen yr arysgrifau ar gofebau capteiniaid a morwyr cyffredin, fel ei gilydd, yn enwedig y beddfeini hynny sy’n cofnodi marwolaethau’r rheini a foddwyd ymhell oddi cartref, anodd yn yr oes sydd ohoni yw iawn ddeall ac amgyffred rhyddid a rhamant y môr a’r modd yr ymyrrodd cyfaredd y cefnforoedd â bywydau’r sawl a aeth i forio. ‘Ac roedd epil y Cilie/Uwch y lan yn rhan o’r we’ a ufuddhaodd i daer ymbil y lli, ac yn y gyfrol swmpus hon (ix446 tt) adroddir hanes ac anturiaethau yr un morwr ar ddeg o dylwyth enwog y Cilie. Dyrchafwyd Dafydd Jeremiah Williams a’i frawd John Etna Williams, ynghyd â’u cefnder John Alun Jones (Jac Alun), yn gapteiniaid llongau masnach, tri gwron dewr a gwrol a dreuliodd oes yn tramwyo’r tonnau cyn llyncu angor a dychwelyd adref yn ystod 1970au ac 80au’r ganrif ddiwethaf.

Nid y lleiaf rhyfeddol o brofiadau Dafydd Jeremiah oedd cwrdd ag Almaenwr talsyth yn Bremen, yr Almaen, yn 1927, milwr a oedd wedi ymweld â thraethell Cwmtydu bedair mlynedd ar ddeg ynghynt tra oedd y llong danfor a wasanaethai arni yn llechu yn y bae gerllaw. Bellach, mae hanes glaniad y gelyn ar lan Bae Ceredigion a’r cyfarfyddiad anhygoel yn Bremen yn rhan o chwedloniaeth ardal Cwmtydu. Yn ystod blynyddoedd blin 1939-45 bu’r tri chapten yn dystion i ddigwyddiadau hanesyddol ac erchyllterau’r Ail Ryfel Byd: Dafydd Jeremiah yn dianc rhag crafangau’r gelyn yn Norwy; John Etna, yr olaf o forwyr y Cilie, yn garcharor dan ddwylo’r Siapaneaid; a Jac Alun yn dyst i ddrama fawr brwydr aber afon Plate a suddo’r llong ryfel Almaenig <i>Graff Spee</i>. Wedi’r rhyfel cyhuddwyd neb llai na Jac Alun, a enillodd fri cenedlaethol fel englynwr crefftus, o anfon negeseuon cudd a allai fod yn fanteisiol i elyn. A’r neges bechadurus honedig? Cyfres o englynion a luniwyd ar gyfer Eisteddfod Rhydlewis!

Treuliodd y ddau frawd Lloyd George Jones a Tom Ellis Jones, y naill yn fosn a’r llall yn beiriannydd, dros bymtheg mlynedd ar y môr ond ni fu gafael y môr mor dynn ar y gweddill o forwyr y Cilie. Er hynny, nid yw hynt a helyntion morwrol Frederick James Williams, Gerallt Jones a Berian Vaughan, ill tri yn forwyr cyffredin, na throeon eu gyrfaoedd wedi iddynt lyncu’r angor, ronyn yn llai diddorol: troes golygon Gerallt Jones tua’r weinidogaeth ac ailgydiodd y ddau arall yng nghrefft hynaf dynol-ryw.

Tra gwahanol fu hanes Simon B. Jones, gwrthrych y portread agoriadol, a’r morwr ieuanc Gwyn Tudur Williams y mae ei hanes yn cloi’r gyfrol. Roeddent ill dau yn forwyr undaith yn unig. Serch hynny, bu’r un fordaith yn ysbrydoliaeth i Simon B. lunio’i gerdd hunangofiannol ‘Rownd yr Horn’, y bryddest a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933. Camp Gwyn Tudur oedd hwylio o amgylch y byd mewn iot yng nghwmni criw o forwyr dibrofiad eraill rhwng Hydref 1999 a Medi 2000. Un fordaith a gwblhawyd gan Elfan James Jones hefyd, aelod o’r tylwyth a gâi ei gydnabod a’i gofio fel storïwr ffraeth, hanesydd lleol a pherchennog cof diwaelod.

Mynn yr awdur na fyddai wedi bod yn bosibl iddo lunio <i>Morwyr y Cilie</i> oni bai fod ei dad, Jac Alun, yn storïwr greddfol ac yn barod i sôn am ei brofiadau. Efallai'n wir, ond oni bai am barodrwydd Jon Meirion i gofnodi’r hanesion, ei ddawn dweud a’i adnabyddiaeth drylwyr o’i fro enedigol a’i phobl, go brin y byddai’r llyfr campus hwn, na’i chwaer gyfrol ysblennydd <i>Teulu’r Cilie</i>, wedi gweld golau dydd.

Drwy gyfrwng un bywgraffiad ar ddeg dadlennir hynt bro gyfan yn ystod y rhan helaethaf o’r ugeinfed ganrif, ei hanes daearyddol, morwrol, amaethyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae’n bortread cynnes, cartrefol sy’n byrlymu nid yn unig o hiwmor yr awdur ond hefyd ffraethineb y cymeriadau y sonnir amdanynt. Un arall o gymwynasau nid bychan yr awdur oedd casglu ynghyd doreth o luniau trawiadol, ffotograffau y bu’n rhaid iddo, megis Simon B. gynt, fynd o ‘Walia/ I’r byd sy dros y bar’ nid yn unig er mwyn tynnu rhai ohonynt ond hefyd i hel y straeon ynghlwm wrthynt.

Trist meddwl, fodd bynnag, fod yr aelwydydd diwylliedig y magwyd morwyr y Cilie arnynt yn prysur ddiflannu dan ddylanwad difaol y mewnlifiad sydd, ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, wedi chwalu seiliau’r gymdogaeth dda y cyfeirir yn hiraethus ati rhwng deuglawr campwaith Jon Meirion.

- Dyfed Elis-Gruffydd @ www.gwales.com,

A highly interesting volume tracing the connection of eleven members of the Cilie family with the sea, over three generations, together with details of the ships they sailed on. Companion- volume to Teulu'r Cilie. Over 300 black-and-white photographs.
Les mer
A highly interesting volume tracing the connection of eleven members of the Cilie family with the sea, over three generations, together with details of the ships they sailed on. Companion- volume to Teulu'r Cilie. Over 300 black-and-white photographs.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781900437547
Publisert
2002-12-06
Utgiver
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
446

Forfatter