Yn y gyfrol arloesol hon mae Richard Wyn Jones yn olrhain datblygiad syniadaethol Plaid Cymru o’i geni ym misoedd gaeaf 1924–5 hyd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn haf 1999. Trwy gyfrwng astudiaeth wreiddiol a heriol o gredoau gwleidyddol ei harweinwyr pwysicaf – Saunders Lewis, Gwynfor Evans a’r ddau Ddafydd, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley – cawn ddilyn ymdaith y Blaid o gyrion y llwyfan gwleidyddol hyd at drothwy’r Gymru ddatganoledig. Rhoddir sylw arbennig i’r datblygiadau a welwyd ym mholisïau cyfansoddiadol ac economaidd y Blaid, yn ogystal ag yn ei safbwynt tuag at yr iaith Gymraeg. Seilir y gyfrol ar drafodaeth awdurdodol ar natur cenedlaetholdeb a syniadau cenedlaetholgar, trafodaeth sy’n ein galluogi i ddeall datblygiad syniadaethol Plaid Cymru oddi mewn i gyddestun hanesyddol a rhyngwladol ehangach. Dyma lyfr sy’n bwrw goleuni newydd, dadlennol a dadleuol ar Blaid Cymru.
Les mer
Syniadaeth Plaid Cymru: Cyfrol 1

Produktdetaljer

ISBN
9781837723867
Publisert
2025
Utgave
2. utgave
Utgiver
Ingram Publisher Services UK- Academic
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok

Forfatter