Sefydlwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn wreiddiol yn 1822 dan yr enw Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a dyma’r sefydliad colegol addysg uwch hynaf yng Nghymru. Yn ystod dau gan mlynedd ei hanes, mae wedi derbyn nifer o lawysgrifau hynod a phrin, llyfrau printiedig cynnar, cyfrolau llawn darluniau, ac enghreifftiau anarferol o daflenni i gyfnodolion – y rhan fwyaf drwy roddion hael nifer o gymwynaswyr, yn cynnwys sylfaenydd y sefydliad, yr Esgob Thomas Burgess o Dyddewi. Cedwir y casgliad heddiw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, yn adnodd cyfoethog i ysgolheigion ac ymchwilwyr ledled y byd. Mae’r gyfrol lawn darluniau hon yn cyflwyno detholiad o blith y miloedd o drysorau sydd yn y casgliad, yn rhychwantu dros saith can mlynedd. Ceir ysgrif fer i gyd-fynd â phob darlun, pob un wedi’i hysgrifennu gan ysgolhaig sydd â gwybodaeth a gwerthfawrogiad dihafal o’r gwaith dan sylw. Bydd y gyfrol o ddiddordeb eang, ac yn dyst i’r cyfoeth a geir yn yr hyn a alwyd unwaith yn ‘llyfrgell fach fwyaf Cymru’.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781786839275
Publisert
2022
Utgave
1. utgave
Utgiver
Vendor
Gwasg Prifysgol Cymru
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok

Forfatter