Dyfal ond dychmygus, caiff Ceridwen ei lluchio i sefyllfa ddirdynnol
ym mherfeddion y canolbarth, a hithau a’i mam yn hen dyddyn y teulu
yn gofalu am ei Gransha yn ei ddyddiau olaf. Gyda’r byd yn datgymalu
o’u cwmpas, ceir cyfle i ddianc i’r dychymyg gyda chymorth Nain, a
wnaeth adael casgliad amrywiol o lyfrau i Ceridwen – trysorau sy’n
ei thywys i gwrdd â chyfres o gymeriadau annisgwyl yn canu am
hanesion a syniadau o’r henfyd i’r presennol, ac sy’n agor drws
iddi ar fyd llawn cwestiynau a myfyrdodau ar ei chyflwr hithau, ei
chenedl a’r byd tu hwnt. Wrth ddilyn yng nghwmni ei chyfeillion hynt
yr hyn a enwir yn ‘Ysbryd Morgan’, daw’n hysbys i Ceridwen fod
gobaith i’w ganfod yng ngwedd bruddglwyfus ei theulu a’i
chymdeithas – ond i’w ganfod, mae’n rhaid cysylltu gyda’r
gorffennol tra yn dechrau o’r newydd.
Les mer
Adferiad y Meddwl Cymreig
Produktdetaljer
ISBN
9781786834201
Publisert
2023
Utgave
1. utgave
Utgiver
Ingram Publisher Services UK- Academic
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Digital bok
Forfatter